Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 21 Hydref 2015
Amser y cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(15 munud)
(15 munud)
(60 munud)
NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rôl hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf economaidd drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth;
2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru;
3. Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:
a) dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i berchnogaeth breifat; a
b) rhannu'r enillion o'i werthu rhwng buddsoddi mewn seilwaith a dychwelyd y buddsoddiad gwreiddiol i drethdalwyr Cymru.
4. Yn cydnabod y cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r rôl bwysig y mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu swyddi;
5. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i Abergwaun a'r A55 i Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru; a
6. Yn cydnabod ymhellach y rôl y gall rheilffordd Calon Cymru ei chwarae fel coridor trafnidiaeth ar gyfer canolbarth Cymru, a'i rôl bosibl o ran gyrru cysylltedd Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bwriad datganedig Lywodraeth Cymru o ganfod gweithredwr sector preifat ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar adeg ei brynu ac yn galw am ddiweddariad ysgrifenedig ar gynnydd yn hynny o beth.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:
a) cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i Gymru; a
b) cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol fel Heathrow a Manceinion.
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) – Tynnwyd yn ôl
Dileu pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau cysylltedd mewnol ac allanol, ac yn cefnogi:
a) datblygu rheilffordd Calon Cymru;
b) trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru;
c) trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a rheilffyrdd y Cymoedd; a
d) trydaneiddio rheiffordd y Gororau.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bylchau sylweddol o ran prosiectau trydaneiddio rheilffyrdd yng nghynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys trydaneiddio llinellau Glyn Ebwy, Ynys y Barri, Bro Morgannwg, Penarth a Maesteg.
Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol
Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailosod cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli.
(60 munud)
NDM5851 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Awst 2015.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Hydref 2015.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Crynodeb o adroddiad y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ymateb Llywodraeth Cymru
(60 munud)
NDM5852 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw am foratoriwm ar unwaith ar unrhyw wariant a chynllunio ar gyfer 'llwybr du' yr M4 tan fydd pobl Cymru yn rhoi mandad pan fyddant yn ethol Llywodraeth nesaf Cymru yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn cychwyn i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad" ym mis Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu.
Datganiad ar y cyd Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Yn cefnogi:
Edwina Hart (Gŵyr)
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y bydd unrhyw oedi o ran datblygu ffordd liniaru addas i'r M4 - yn amodol ar archwiliad cynhwysfawr o'r holl opsiynau posibl - yn rhwystro twf economi Cymru, twristiaeth ac integreiddio cymdeithasol yn y dyfodol.
(30 munud)
NDM5853 Lynne Neagle (Torfaen)
Mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc - rhoi terfyn ar ddefnyddio llety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2015